Prosiectau

Cleient
Dwr Cymru

Lleoliad
Deopt Parc Cinmel
Ystad Ddiwydiannol Parc Cinmel
Lôn Abergele
Bodelwydden
LL18 5TY

Mae’r salfe wedi ei leoli yn union drws nesaf i’r A55 i’r gorllewin o Fodelwyddan, Sir Ddinbych.

Gwerth y Gytundeb
£560,000

Dyddiad y Gytundeb
Mehefin - Tachwedd 2014

Crynodeb o’r Gwaith
‘Roedd ein gwaith yn cynnwys yr elfen waith tir o brosiect i addasu uned ddiwydiannol bresennol i’w defnyddio fel depo ar gyfer gwasanaethau dwr lleol gyda swyddfeydd a iard storio adnoddau/peiriannau.

Rhaid oedd addasu’r tir o gwmpas yr adeilad er mwyn creu maes parcio addas ar gyfer hyd at 200 o staff ac hefyd safle i storio cerrig/pridd yn ogystal a pheiriannau ac offer.

Yn gynnwysiedig ‘roedd gwaith ffensio, rhwystrau, tirlunio, arwyddion, goleuo yn ogystal a sicrahu mynediad 24/7 a gwahanu trafnidiaeth cerbydau a cherddwyr.

Rhai o heriau’r gwaith oedd dymchwel byncyr o’r ail Ryfel Byd, codi tyfiant yn ofalus tra’n gwarchod cynefin sawl math o fywyd gwyllt yn ogystal a gwarchod coed neilltuol gan gynnwys derwen a choed hynafol. Rhaid hefyd oedd cynnal mynedfa trwy’r safle bob amser i unedau diwydiannol cyfagos.

Roedd y gwaith yn cynnwys

  • Dymchwel Byncyr yr ail ryfel byd (cysgodfan frics a bwa wedi eu malu’n fan ar y safle er mwyn ail ei defnyddio fel sylfaen gerrig)
  • Clirio Safle (torri coed, codi llwyni cyn y tymor nythu – ymchwiliad eco llawn wedi ei gynnal)
  • Clirio Tir
  • Symud deunydd dros dir anwastad a’i gywasgu – 150 x 200m
  • Draeniau dwr arwyneb, gyliau a gwahanwr olew
  • Siambrau a phibelli carthffosiaeth
  • Llawr concrid wedi ei atgyfnerthu ar gyfer storfa - 12x12m
  • Dyctiau UPVC (Teledu Cylch Cyfyng a Goleuadau Stryd)
  • Cyrbio
  • Pileri Concrid
  • Adeiladu ardaoedd storio
  • Ffensiau Parhaol
  • Arwyneb Tarmac 3360m2
  • Llinellau Gwyn
 

Cleient
Clwb Hwylio Bae Trearddur

Lleoliad
Clwb Hwylio Bae Trearddur
Gwyndy, Lon Penrhyn Garw,
Bae Trearddur. LL65 2YY

Gwerth y Gytundeb
£57,000

Dyddiad y Gytundeb
Tachwedd - Rhagfyr 2014 & Chwefror 2015

Crynodeb o’r Gwaith
Cwblhawyd y gwaith mewn dau ran:
Rhan 1:

  • Torri arwyneb hyblyg blaenorol y parc dingi er mwyn sefydlu ongl ddiogel i godi’r cawelli presennol.
  • Gwaredu’r cawelli diffygiol presennol
  • Gosod 3 haen o gawelli a chroenyn goetecstil
  • Ail wynebu’r parc dingi

Rhan 2:
Gosod arfogaeth cerrig o flaen y cawelli gabion er mwyn afradloni egni’r tonnau mewn samgylchiadau stormus.

Cwblhawyd y gwaith yn llwyddiannus gan oroesi anhawsterau megis sefydlu mynedfa i’r traeth ar gyfer peiriannau a cherbydau, diffyg lle i weithio mewn cyfnodau o lanw uchel a sicrhau fod mynediad i’r cyhoedd i’r traeth yn cael ei gadw tros gyfnod y gwaith.

Lluniau

Blaenorol:

   


Gwaith wedi ei gwblhau:

 

Cleient
Costain Ltd - Dŵr Cymru Welsh Water
Lleoliad
Mynydd Llandygai
Gwerth y Gytundeb
£2,734,408.74
Dyddiad y Gytundeb
Ebrill 2009 - Mai 2010
Manylion y Gwaith
Fel rhan o raglen buddsosi’n gynnar Dwr Cymru ar gyfer AMP 5, ehangwyd a datblygwyd y gwaith trin dwr presennol ym Mynydd Llandegai er mwyn lleihau’r dirywiad yn safon cyflenwad dwr glan gan arwain at gynyddu’r risg o THM yn y dwr sydd wedi ei drin.

‘Roedd gwaith WH yn cynnwys:

  • Rheoli trafnidiaeth gan gynnwys sefydlu sustemau ar gyfer mynd a dod o’r safle
  • Cyd-weithio’n agos â swyddogion Dwr Cymru ar salfe byw gan sicrhau fod mynediad ar gael iddynt bob amser
  • Cleirio’r safle a chloddio tir sylweddol (gweithio yn yml Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig)
  • Dargyfeirio pibelli prosesau a draenio presennol
  • Adeiladu lloriau a strwythurau concrid wedi ei atgyfnerthu
  • Codi adeilad ffrâm ddur yn cynnwys gwaith cerrig a tho llechi
  • Gosod pibelli draenio a phrosesau (gwasgeddedig a disgyrchiant)
  • Gosod ceblau a dyctiau trydan a thelemetreg
  • Adeiladu lonydd a llwybrau troed (tarmac gan gynnwys llinellau gwyn)
  • Gosod giatiau a ffensiau diogelwch Lefel 4
  • Tirlunio gan gynnwys ffurfio byndiau sgrinio a phlannu