Cefndir

Hanes Cryno a Datblygiad

image
  • 1959 – 1970 – Sefydlwyd y cwmni yn 1959 gan William Hughes. Ar y pryd, cyflawni gwaith draenio tir oedd y cwmni cyn symud ymlaen rhyw bum mlynedd yn ddiweddarach i waith peirianneg sifil bychan yn cynnwys cysylltiadau carthffosiaeth, gosod tanciau septig yn ogystal a llogi peiriannau. Bu farw William Hughes yn 1969 pan oedd ond yn 48 oed gan adael ei dri mab i gynnal y busnes teuluol.
  • 1970 – 1980 – Erbyn hyn ‘roedd y busnes yn arbenigo mewn pob math o waith gosod pibelli, gwaredu dŵr wyneb, dwr mêns a charthffosiaeth i gwsmeriaid preswyl a gwasanaethau cyhoeddus.
  • 1973 – Gwelwyd cwblhau gwaith gwaredu dŵr gwastraff ar gyfer pentref cyfan am y tro cyntaf i Gyngor Ardal Wledig y Fali.
  • 1980 – 1990 – Cyfnod arall o ymsefydlu yn golygu mentro i brosiectau mwy. Erbyn diwedd yr 80au, cwblhawyd cytundeb £1 miliwn am y tro cyntaf yn llwyddiannus i Gyngor Sir Ynys Môn.
  • 1990 – 2000 – Y cwmni yn cwblhau prosiectau mwy soffistigedig a chymleth yn cynnwys strwythurau concrid ar-safle. Mae’r trefniadau partnerio gyda chleientau mawr yn golygu costau targed, cost+ a ffurfiau newydd o gontractio. Mae’r gwaith rheoli i gyd ar gyfrifiaduron yn y brif swyddfa ac ar safle.
  • 2000 – 2010 – Dylanwad y drydedd genhedlaeth o’r teulu yn dod yn rhan o’r cwmni gyda gwybodaeth a phrofiad a thechnolegau modern yn cael eu croesawu. Datblygu’r gweithlu i fod yn dîm hynod o ddawnus a phroffesiynol gan sicrhau ein bod yn cynnal ein enw da am ddibynadwyedd.
  • 2010 – Heddiw – Ffurfioli’n hymrwymiad i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd trwy sicrhau achrediad i BS EN ISO 9001:2008, BS OHSAS 18001 a BS EN ISO 14001 gan BSi. Sustemau rheolaeth yn sicrhau fod y gwasanaeth a ddarperir yn broffesiynol ac yn gyson ddibynadwy.