TARGED HIR-DYMOR:
Gwella mynediad i fyny'r afon i bysgod hyn i'w hanog i ddychwelyd a magu mewn ardal oedd cynt yn amhosibl iddynt ei chyrraedd. Bydd gwelliant naturiol y stoc bysgod yn cynorthwyo'r cymunedau lleol ac economi Afon Clywedog.
CEFNDIR:
Am fwy na hanner canrif mae cored 16 troedfedd o uchder yn yr afon Clywedog ym Mhontuchel ger Rhuthin wedi bod yn wrthrych amhosibl i'w oroesi i bysgod. Mae gwir angen ffordd iddynt gael mudo dros y gored a nofio ymhellach i fyny'r afon.
SIALENS:
Cyd weithio yn agos âg Asiantaeth yr Amgylchedd mewn ardal sensitif o harddwch naturiol.
Cwblhau'r gwaith o fewn hanner mwynaf y flwyddyn cyn i lefel dŵr yn yr afon godi.
Gweithio mewn safle anodd gyda phroblemau mynediad a chyfyngiadau amlwg Iechyd a Diogelwch gan greu cyn-lleied a phosib o anhwylustod i bobl leol.
DISGRIFIAD O'R GWAITH:
Symud llif yr afon er mwyn creu safle i weithio.
Gosod ysgol fetel mewn twnel a chreu pyllau i'r pysgod orffwys o'r llif tra yn ddringo i fyny'r rhaeadr. Gosod platiau metel ar ongl i dorri i mewn i lif yr afon er mwyn lleihau cyflymder y llif a chreu trobyllau ofewn y twnel.
Creu grisiau yng ngwely'r afon ar waelod y rhaeadr gyda pyllau dwfn oddi-mewn i bob gris er mwyn creu safle i'r pysgod orffwys o lif yr afon.
CAM 1: SAFLE CYN I'R GWAITH DDECHRAU
CAM 2: LLIF DŴR DROS Y GORED YN CAEL EI SYMUD A'I BWMPIO CYN I'R GWAITH DDECHRAU.
CAM 3:
DECHRAU'R GWAITH.
Y GWAITH WEDI EI ORFFEN
Am fwy o wybodaeth am brosiectau William Hughes (Peirianneg Sifil) cysylltwch â ni ar (01248) 750193.