CYLCHLYTHYR
RHIFYN 01
 
     
 

PRIOSIECT GORED GWERTH £250,000 YN RHOI HWB I BYSGOD I FYNY'R AFON

 
   
     
  UCHOD: Julian Bray o Asiantaeth yr Amgylchedd gyda Jonathon Farrar o gwmni Bullen Construction ar safle'r ysgol bysgod sydd wedi ei agor yn swyddogol yn ddiweddar ar yr Afon Clywedog.  
     
 

DEUDDEG milltir o afon wedi ei hagor i eog a brithyll diolch i'r brosiect £250,000. Am dros ganrif ‘roedd y gored 16 troedfedd yn yr Afon Clywedog ym Mhontuchel ger Rhuthin wedi bod yn wrthrych di-fynd heibio i bysgod ond erbyn hyn mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi adeiladu llwybr sydd yn eu galluogi i fynd heibio'r gored a nofio ymhellach i fyny'r afon.
Dywedodd Julian Bray, rheolwr prosiectau gwarchod pysgodfeydd i'r Asiantaeth nad oes unrhyw wybodaeth ynhlyn a pham yr adeiladwyd y gored yn wreiddiol ond fod dyluniad y llwybr newydd yn dechnegol yn gymleth a thrylwyr iawn.
Mae gan yr Asiantaeth arian o raglen ariannu amcan un er mwyn ehangu gweithgaredd mewn afonydd trwy Gymru, ail greu cynefinoedd naturiol a gwneud pysgodfeydd yn haws i'w cyrraedd.
“Wrth wella mynediad i fyny'r afon i bysgod sydd yn mudo, byddwn yn gwneud gwelliannau amgylcheddol mawr a ddylai fod o fantais nid yn unig i'r stoc bysgod ond hefyd i'r gymuned leol ac i economi ardal afon Clywedog ” meddai Mr Bray.

 
   
  NEWYDDION Y TIM PEL-DROED  
   
     
 

Tim William Hughes a fu'n cymeryd rhan yn y ‘Triact Cup' eto eleni ym Mharc Eirias, Bae Colwyn ar Ddydd Sadwrn yr 24ain o Ebrill 2004.

Ni fu'r tim mor llwyddiannus yn y pel droed ac y maen't wrth eu gwaith ond fel Cymry da sylweddolant nad yn yr ennill yr oedd yr hwyl ond yn y cymeryd rhan felly bu noson dda o ddathlu i ddilyn!