Beth bynnag fo maint y brosiect, mawr, bach, uchel neu ganolig, mae William Hughes yn edrych ymlaen i weithio'n agos gyda chlientau i greu'r anarferol, i ddyfeisio atebion hyblyg ac i sicrhau fod y gwaith yn cael ei orffen o fewn yr amser penodedig ac o fewn y gyllideb.
Gyda phrosiectau tymor hir, maent yn ymrwymedig i ddatblygu perthynas agosach trwy gyd-weithio gyda chleientau trwy‘partnerio'.
Mae partnerio yn cynnig cyfle i roi mwy o bwyslais ar y cwsmer, ar waith tîm a gweithio o fewn amgylchedd ‘llyfr agored'.
Yr amcan yw ‘gwelliant parhaol' sy'n hyrwyddo datblygu ffyrdd mwy effeithiol o gyrraedd nodau allweddol, rheoli costau, gwella ansawdd a'r cyfan er mwyn bodloni'r defnyddiwr.