|
 |

William Hughes yw un o brif ddarparwyr gwasanaethau cefnogi ac adeiladu i gwsmeriaid sector breifat a chyhoeddus ar draws ystod eang o farchnadoedd.
Gallant gynnig gwasanaeth arbennig a dibynadwy trwy gyfuno galluoedd trosglwyddo unigryw gan dîm o bobol ddawnus a brwdfrydig.
Ers eu sefydlu ym 1959, daethant yn un o brif gwmniau adeiladu peirianyddol sifil a gwasanaethau cefnogi yng Ngogledd Cymru gyda throsiant blynyddol o fwy na £5 miliwn.
Gwelwyd newid sylweddol yn natur a ffurf y busnes mewn blynyddoedd diweddar. Datblygodd y cwmni o fod yn gontractwyr adeiladu peirianyddol sifil pur i fod yn arweinwyr y farchnad fel cwmni adeiladu a gwasanaethau cynnal, yn gallu cyflawni ystod eang o brosiectau ar amser ac o fewn cyllideb.
|
 |